Set focs o bump nofel fer sy'n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2022.

Tim gan Elgan Rhys gyda Tomos Jones
Tami gan Marged Elen Wiliam gyda Ceri-Anne Gatehouse
Aniq gan Mared Roberts gyda Mahum Umer
Robyn gan Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
Cat gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen
Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol o bum nofelig, 20,000 o eiriau yr
un, i bobl ifanc, am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y
byd. Cyfres gan bump o awduron a chyd-awduron ifanc, sy’n dathlu
arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc
sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Dyma gyfrolau heriol ac arbrofol, sydd â llawer iawn o gyd-blethu
rhyngddynt, yn ogystal â bod yn straeon unigol trawiadol dros ben.
Beth sy’n gwneud y straeon yma’n wahanol ac yn arbennig o
berthnasol yw’r cyd-weithio rhwng y cyd-awduron, ac mae’r holl
gymeriadau, eu sefyllfaoedd a’u rhyngberthynas yn teimlo’n real
iawn, iawn. Mae defnyddio awduron amrywiol yn creu lleisiau unigol
i bob un o’r cymeriadau, rhywbeth sy'n effeithiol tu hwnt.
Camp ddiamheuol y golygydd yw’r ffordd mae e wedi dod â’r holl
straeon at ei gilydd yn effeithiol. Byddai angen adolygiad helaeth
er mwyn gwneud cyfiawnder gyda’r cyfrolau yma, gan eu bod mor
gyfoethog o ran cynnwys. Seriodd y straeon a’r cymeriadau ar y cof
am amser. Dyma fenter uchelgeisiol, a dwi’n siŵr bydd trafod ac
ystyried cynnwys y cyfrolau yma am flynyddoedd i ddod.
*Alun Horan @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |