Bethan Gwanas is the author of some of the best and most popular books in Wales - Amdani has success as a television series and Llinyn Trons won her the Tir na nOg literary prize.
Dros y blynyddoedd, mae Bethan Gwanas wedi profi ei gallu i
ysgrifennu mewn nifer o arddulliau gwahanol, ac i gynulleidfaoedd
amrywiol o bobl ifanc a phlant i deithwyr brwd, ac unrhyw un sydd
wrth ei fodd â nofel dda a gafel ynddi. Mae ei nofel ddiweddaraf,
Hi yw fy Ffrind, yn adrodd hanes plentyndod a chyfeillgarwch dwy
ferch syn tyfu i fyny mewn ffermydd cyfagos yn ystod chwe degau a
saith degaur ganrif ddiwethaf. Mae Non a Nia yn gymeriadau cwbl
wahanol iw gilydd. Un o nifer o blant mewn teulu mawr cartrefol yw
Non, syn adrodd y stori, ac maen dipyn o domboi, yn hapus i
fwynhau ei phlentyndod gwledig. Ar y llaw arall, mae Nia yn unig
blentyn, sydd, wrth iddi dyfu, yn dyheu am wrthryfela a chael bod
yn oedolyn cyn pryd. Pe bair ddwy yn byw mewn tref, neun dod ar
draws ei gilydd am y tro cyntaf yn eu harddegau, go brin y byddent
yn ffrindiau, ond mae'r ffaith iddynt gael eu geni yng nghefn gwlad
o fewn milltir neu ddwy iw gilydd yn eu taflu ynghyd, ac maer llw
syn cael ei dyngu ym more oes, y byddant yn aros yn ffrindiau
mynwesol am byth, yn gafael yn dynn yn y naill ar llall, er
gwaethaf y tensiynau anochel syn codi rhwng y ddwy. Er mai
cymharol brin ywr digwyddiadau cyffrous ym mywydaur ddwy ferch,
maer nofel yn darllen yn rhwydd iawn, ac yn ddarlun ardderchog o
brofiadau ingol ieuenctid. Mae popeth yn cael ei deimlo ir byw,
boed bleser neu boen, ac mae ansicrwydd a diffyg hyder y ddwy ferch
yn cael ei bortreadu'n gynnil a sensitif iawn. Fel un fun tyfu i
fyny yn ystod yr un cyfnod â Non a Nia, teimlaf i Bethan ddal
llawer o naws ac ysbryd yr oes yn y nofel hon; wrth i mi ddarllen
roedd yr atgofion yn llifo. Gyda sôn bod dilyniant ar y gweill,
gellid dadlau mai dyna lle bydd y gwir storin dechrau. Gyda diwedd
dramatig y nofel, rydyn nin gwybod na fydd pethau fyth yr un fath
i Nia a Non, ac maen arwydd o lwyddiant Bethan wrth greur
cymeriadau fy mod i, o leiaf, am wybod beth syn digwydd ir ddwy
lle maen nhw erbyn hyn, a beth yw eu perthynas. Dyma lyfr sydd,
unwaith eto, yn gwbl wahanol i lyfrau blaenorol Bethan, ond wrth
ddarllen doedd gen i ddim amheuaeth fy mod mewn dwylo diogel ac yn
mwynhau gwaith awdur aeddfed a dawnus.
*Catrin Beard @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |