Hurry - Only 4 left in stock!
|
Bethan is from Rhyd-y-main, Meirionnydd a few miles from Gwanas farm where she was raised. She graduated in French in Aberystwyth before doing various jobs such as working with the VSO in Nigeria. She's currently presenting the programme 'Ar y Lein' on S4C.
Braf oedd cael fy nhywys drwy goridorau gwallgof fy nyddiau yn neuadd Pantycelyn wrth ddarllen y nofel hon. Portread real ydyw o hynt a helynt y dyddiau hynny, y meddwi, y bitsio, yr hangovers ar chwerthin. Maer diffyg sn am unrhyw beth academaidd hefyd yn arwyddocaol iawn. Fe gwrddwn eto Nia a Non, dwy hen ffrind nofel flaenorol Bethan Gwanas, Hi yw fy ffrind. Fe gawn eu hanes, wrth i un fynd ir coleg yn Aberystwyth gan adael y llall yn l gartref yng nghefn gwlad Meirionnydd. Gwelwn y berthynas yn chwalun llwyr o achos bradychiad dwfn wrth ir nofel agor gyda Nia yn cael ei dal yn y gwely gyda chariad Non. Mae hyn yn rhoi diwedd sydyn iw cyfeillgarwch. Ac felly fe welwn y ddwy yn ceisio ymdopi u bywydau newydd heb gefn a chymorth eu chwaer gwaed. Fe welwn yn ddiweddarach yn y nofel ailadeiladu perthynas wedi i dad Non farw, gan ddod r ddwy yn l at ei gilydd. Ymgartrefa Non i fywyd domestig gwraig fferm, wrth i Nia geisio ennill ei phlwyf wedi graddio fel actores yn y ddinas. Fe welwn y ddwy yn tyfu ac yn aeddfedu drwyr stori. Lleisiau gonest y ddwy syn siarad yn y nofel, yn hollol agored am bob agwedd ou bywydau. Nid angel mor un o'r ddwy, ac nid yw un ohonynt, o reidrwydd, yn gymeriad hoffus. Serch hynny, maent yn sicr yn gymeriadau y gall unrhyw ferch yn ei hugeiniau cynnar (neu unrhyw ferch a fu unwaith yn ei hugeiniau cynnar!), uniaethu hwy. Or herwydd, fe awn yn fodlon ar y siwrnai gyda hwy, hyd at ddiweddglo echrydus o annisgwyl. Llyfr o sex, booze a suicide yw hwn, ac maer ysgrifennu ffraeth yn gwneud ei ddarllen yn hollol hwylus a didrafferth. Chwa o awyr iach ydyw sydd yn sicr am apelio at y rheini ohonom sydd yng nghanol ffwlbrir dyddiau hynny, yn ogystal r rheini sydd am ymgolli yn yr hiraeth am y dyddiau hynny a fu. Lois Barrar Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |