Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Sign Up for Fishpond's Best Deals Delivered to You Every Day
Go
Gwanas, B: Cyfres y ­Melanai [Welsh]
Diffeithwch Du, Y

Rating
Format
Paperback, 192 pages
Published
United Kingdom, 11 October 2018

A novel telling the story of Efa, princess of the Melanai, after she and her friends flee the Palace before she has to kill her mother, the queen, as decreed by tradition. On reaching The Dark Desolation which is full of dangers, they meet the giant Id, a number of animals and treacherous challenges. The second title in a trilogy.


Our Price
£4.28
Elsewhere
£6.99
Save £2.71 (39%)
Ships from UK Estimated delivery date: 24th Apr - 28th Apr from UK

Buy Together
+
Buy together with Cyfres y Melanai: Efa [Welsh] at a great price!
Buy Together
£8.02
Elsewhere Price
£10.27
You Save £2.25 (22%)

Product Description

A novel telling the story of Efa, princess of the Melanai, after she and her friends flee the Palace before she has to kill her mother, the queen, as decreed by tradition. On reaching The Dark Desolation which is full of dangers, they meet the giant Id, a number of animals and treacherous challenges. The second title in a trilogy.

Product Details
EAN
9781784616526
ISBN
1784616524
Publisher
Dimensions
19.3 x 13.1 x 1.7 centimeters (0.22 kg)

Reviews

Dyma’r ail nofel yn nhrioleg Y Melanai gan Bethan Gwanas, sy’n ddilyniant i’r nofel Efa a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2018. Mae’r drioleg yn dilyn stori Efa, darpar frenhines y Melanai mewn cyfnod ymhell yn y dyfodol, a’i hymdrech i geisio ymdopi â’r disgwyliadau ohoni fel tywysoges ei llwyth. Erbyn dechrau’r nofel hon, mae Efa a’i ffrindiau agosaf wedi dianc o wlad Melanai, ar draws y môr i dir y Diffeithwch Du. A hithau bellach o fewn dyddiau i gyrraedd ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed, sylweddolodd Efa na allai ddilyn traddodiad y Melanai a lladd ei mam er mwyn dod yn frenhines, gan benderfynu dianc yn hytrach nag wynebu’r dynged honno. A’r Diffeithwch Du yw’r man gwyn man draw y mae hi a’i ffrindau yn ei ddewis fel hafan. Ond wrth gwrs, mae dianc yn fwy o her nag y tybiodd Efa a’i ffrindiau erioed, wrth i anifeiliaid rheibus rhyfedd, llosgfynyddoedd a phob math o anawsterau a bygythiadau eraill wneud bywyd yn anodd iawn iddyn nhw. Drwy gydol y nofel, mae cysgod perygl yn drwch dros eu pennau wrth iddyn nhw fentro o’r arfordir, i ganol y llosgfynyddoedd a thros y gwastatir er mwyn ceisio cyrraedd llwyth o bobl y maen nhw wedi clywed sôn amdanyn nhw – llwyth a allai fod yn barod i gynnig lloches iddyn nhw. Dyma nofel hawdd iawn i’w darllen, gyda phenodau hwylus o ran eu hyd, sy’n eich denu i ddarllen ymlaen. Mae’r stori hefyd yn ddigon gafaelgar, er bod rhai o’r digwyddiadau weithiau ychydig bach yn rhy gyfleus a’r stôr o nwyddau a’r bwyd y mae’r criw wedi eu pacio ar gyfer y daith yn ddiddiwedd. Mae yma feirniadaeth achlysurol ar ein hoes ni a allai brocio meddyliau’r gynulleidfa darged, sef pobl ifanc yn eu harddegau. Mae Bethan Gwanas hefyd wedi llwyddo i blannu ambell gwestiwn y mae angen eu hateb cyn cau pen y mwdwl ar y drioleg, a dyna, mae’n siŵr, gaiff ei ddadlennu yn y drydedd gyfrol yn y drioleg, sef Edenia. Effaith penderfyniadau a gwerth ffyddlondeb ffrindiau yw prif themâu Y Diffeithwch Du, heb anghofio arlliw o stori garu hefyd – themâu sy’n sicr o apelio at drwch y darllenwyr. Ac er mai’r ail gyfrol mewn trioleg yw’r nofel hon, does dim rheidrwydd i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf, Efa, cyn gallu mwynhau hon yn llawn, felly ewch amdani!
*Sioned Lleinau @ www.gwales.com*

Show more
Review this Product
Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.