Hurry - Only 2 left in stock!
|
Yn fy marn i – gan Huw Vaughan Hughes, Ysgol Bro Morgannwg, Bro
Morgannwg Cyfres ag amrywiaeth thematig a chymeriadau trawiadol
Mae’r deuddeg llyfr sydd yn y gyfres newydd hon yn apelio oherwydd
yr amrywiaeth thematig, y storïau gafaelgar a’r cymeriadau
trawiadol sydd ynddynt. Dyma gyfres sy’n addas ar gyfer disgyblion
gallu canolig, yn arbennig disgyblion hŷn Cyfnodau Allweddol 3 a 4.
Rhennir y gyfres yn llyfrau ffeithiol a llyfrau ffuglen: Ffeithiol:
Babs; Lladron Diemwnt y Gromen; ’Nôl i’r Gwyllt; Torri’n Rhydd;
Trychineb Medi 11 ac Wyneb Rwber. Ffuglen: Ennill y Ras; Llygad
Drygioni; Smotiau; Tawel Nos; Y We ac Y Cynrhonyn. Llyfrau sy’n
apelio at ddarllenwyr anfoddog Defnyddiwyd y llyfrau gydag ystod o
ddosbarthiadau gwahanol - o ran oedran a gallu. Roedd diwyg y
llyfrau, y print a symlrwydd y storïau’n addas ar eu cyfer. Gydag
un dosbarth rhoddwyd cyfle i’r disgyblion ddarllen y llyfrau’n
annibynnol i fwynhau’r storïau. Cafwyd ymateb ffafriol ganddynt.
Mae’r ffaith nad yw’r llyfrau’n hwy na 50 tudalen, yr eirfa’n syml
a rhediad y stori’n hawdd i’w dilyn, yn sicr yn apelio at
ddarllenwyr anfoddog. O blith disgyblion Blynyddoedd 9 a 10 setiau
is eu gallu a fu’n darllen yn annibynnol, y llyfrau ffeithiol oedd
wedi ennyn y mwyaf o ddiddordeb. Apeliodd hanesion rasio ceir,
lladron, anifeiliaid mewn perygl a digwyddiadau hanesyddol atynt. *
Llafaredd: Cyflwyno gwybodaeth. Gan fod cyfeiriadau safweoedd ar
ddiwedd ambell lyfr, anogwyd y disgyblion i ymchwilio ymhellach i’r
hanesion a chyflwyno’r wybodaeth a ddarganfuwyd yn eu grwpiau.
Defnyddiwyd y gyfres gyda dosbarth o ddisgyblion ym Mlwyddyn 9.
Defnyddiwyd dau o’r llyfrau’n bennaf – Lladron Diemwnt y Gromen a
Tawel Nos. Lladron Diemwnt y Gromen Darllenwyd hanes y lladron fel
dosbarth a gwnaed y gwaith ymchwil i’r hanes. * Ymateb i ddeunydd
darllen: Y dasg oedd llunio dyddiadur un o’r lladron wrth iddo
baratoi’n ofalus i ddwyn y diemyntau. Gan fod y llyfr yn nodi
dyddiadau arbennig, roedd modd defnyddio’r wybodaeth o’r llyfr yn
eithaf trefnus. Llwyddwyd i lunio dyddiadur dau ddiwrnod
gwrthgyferbyniol. Roedd y cofnod cyntaf yn gyfle i'r disgyblion
drafod yr holl gynllunio manwl, i ddychmygu beth fyddent yn gwneud
â’r arian yn ogystal â disgrifio byd y ‘gangster’. Yna, cofnod o’r
dydd y cawson nhw eu dal, eu siom a’u dirmyg tuag at yr heddlu. Y
cyfeiriad at ffilm James Bond yn y llyfr ysgogodd nifer i
ddefnyddio’u dychymyg! Tawel Nos Roedd y stori Tawel Nos wedi
plesio’r grŵp yma hefyd, yn arbennig y syniad o’r ferch, Lowri, yn
ymweld â thref gyda rhyw ddirgelwch ynglŷn â phobl ifanc yn
diflannu. Gan nad yw’r stori’n gorffen yn ‘neis’, a chymeriad Marc
yn ennyn trafodaeth, roedd hon yn plesio. * Ymateb i ddeunydd
darllen: Unwaith eto gofynnwyd i’r disgyblion ysgrifennu’n
greadigol gan geisio defnyddio cymaint o wybodaeth o’r stori â
phosibl. Ond yn gyntaf, ar gyfer paratoi ar gyfer y dasg
ysgrifenedig, rhannwyd y dosbarth yn grwpiau o 3 neu 4 ar gyfer
llunio bwletin newyddion yn adrodd hanes diflaniad y bobl ifanc,
iach. Cafwyd cyfle i chwarae rôl wrth i’r tri aelod o’r grŵp gael
swyddi penodol: y dyn yn y stiwdio, y newyddiadurwr a
llygad-dystion yn ateb cwestiynau'r newyddiadurwr mewn cyfweliad.
Mwynhaodd y disgyblion y siawns i gael perfformio eu sgriptiau
newyddion o flaen y dosbarth. Y brif dasg oedd ysgrifennu erthygl i
bapur bro, yn unigol. Defnyddiodd y disgyblion yr wybodaeth a
baratowyd ganddynt ar gyfer eu bwletinau, ac o ganlyniad, codwyd
safon yr erthyglau. Smotiau Un stori addas ar gyfer y thema Pethau
Rhyfedd yw’r stori Smotiau. Adroddir hanes dianc o’r Ddaear a
theithio i blaned Mawrth i osgoi pla heintus. Awgrymaf y dylid
defnyddio’r stori hon gyda chriw o ddisgyblion uwch eu gallu gan
fod cysyniad y stori yn ddigon cymhleth. * Ymarfer Gramadeg:
Defnyddiwyd y stori i gadarnhau’r defnydd o amser amodol y ferf.
Holwyd y cwestiwn: ‘Pe bait ti’n gorfod gadael y Ddaear, pa dri
pheth fyddet ti’n mynd gyda thi?’ Yna’u hateb nhw: ‘Pe bawn i’n
gadael y Ddaear, byddwn i’n mynd â ... efo fi.’ * Ysgrifennu
Creadigol: Cyfansoddwyd cyfres o e-byst traws-ofodol gan drigolion
y gromen ar y blaned Mawrth at drigolion y Ddaear. Roedd hyn yn
gyfle i’r disgyblion ddefnyddio eu dychymyg i gyfleu bywyd
artiffisial ar blaned estron ac erchylltra planed a’i thrigolion yn
marw’n raddol. Mae posibiliadau ymestyn y gwaith yma i drafod
llygredd a chynhesu byd-eang a’r ffordd rydyn ni’n dinistrio ein
planed. ’Nôl i’r Gwyllt Defnyddiwyd rhannau o’r stori ’Nôl i’r
Gwyllt gyda dosbarth ym Mlwyddyn 7 fel rhan o’r thema Anifeiliaid.
Adroddir hanes eliffant yn cael ei gipio o’r gwyllt i fyw yn
America, yna’i hanes yn ymuno â sw. * Llafaredd ac Ysgrifennu
Creadigol: Tasg mynegi barn. Roedd darllen y stori yma, ynghyd ag
erthyglau ar y syrcas a’r sw, yn sbardun ar gyfer gwaith mynegi
barn o blaid ac yn erbyn defnyddio’r lleoedd hyn fel adloniant.
Mae’r stori yma’n ennyn cydymdeimlad tuag at Amy, yr eliffant, a
gellid ymestyn y gwaith i ysgrifennu hunangofiant yr anifail hwn
neu unrhyw anifail arall sy’n dioddef mewn caethiwed. Trychineb
Medi 11 a Torri’n Rhydd Mae trychineb Medi’r 11eg yn fyw yn ein cof
a’r delweddau’n dal i yrru ias i lawr ein cefnau. Darllenwyd y
stori hon gyda disgyblion set waelod Blwyddyn 11. Yma ceir hanes
Pitch Picciotto, dyn tân a arweiniodd ei gyd-weithwyr i mewn i un o
dyrau Canolfan Masnach y Byd a oedd ar fin dymchwel. Adroddir y
stori hon yn y person cyntaf ac mae’r arddull foel yn cyfleu pwyll
yr arwr mewn sefyllfa gythryblus. * Tasg Gwaith Cwrs Iaith TGAU:
Byddai’n addas defnyddio’r llyfr hwn fel sbardun ar gyfer tasg
ysgrifennu creadigol dychmygus TGAU. Cawn hanes cyffro, ofn,
tristwch a cholled person ynghanol trychineb. * Yn yr un modd
gellir defnyddio’r llyfr Torri’n Rhydd gyda grŵp TGAU ar gyfer tasg
ffolio. Adroddir hanes ymgyrch Tim Jenkin i ddianc o garchar yn Ne
Affrica yng nghyfnod Apartheid. Mae themâu cyfoes fel hiliaeth a
therfysgaeth yn destunau cyffredin ar y newyddion, ac mae gan y
disgyblion wybodaeth a barn bendant amdanynt. Gellir manteisio ar
hyn i ymarfer gwaith arholiad llafar gan drafod pynciau cymhleth. Y
We ac Ennill y Ras Pynciau eraill poblogaidd mewn cynlluniau gwaith
TGAU yw effeithiau cyffuriau a chamddefnyddio’r we. Mae Y We yn
dangos peryglon erchyll trefnu cwrdd â chyd-sgwrsiwr. Wrth ddarllen
y stori Ennill y Ras, rydym yn cael gwybod am ddilema bachgen i
berfformio’n well ym myd chwaraeon trwy gymryd cyffuriau. Tasg
Gwaith Cwrs Iaith TGAU/TLM: Ar lefel syml, gall y disgyblion
gynhyrchu posteri yn rhybuddio pobl o’r peryglon a’u hannog i
beidio â chamddefnyddio’r pethau hyn. Ar gyfer rhai uwch eu gallu,
gellir eu defnyddio fel sbardun gwaith mynegi barn ar gyfer eu
gwaith cwrs TGAU. Gallant hefyd fod yn gyfle i gyflwyno profiadau
personol a chyfle i fynegi barn. Nid straeon bach diniwed sydd yma
Mae rhywbeth sinistr yn perthyn i’r holl straeon a dyna sy’n eu
gwneud yn gyffrous. Nid straeon bach diniwed mohonynt ond straeon
ag ynddynt dro annisgwyl yn y gynffon. Cafwyd blas hefyd ar
ddarllen ac ymchwilio’r straeon ffeithiol. Yn wir, ceir yma
hanesion difyr, a chymeriadau diddorol sy’n taro deuddeg.
*Cyngor Llyfrau Cymru*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |