Strach! Dyna yw enwr gyfres ac unwaith eto mae Gedonia yn mynd ni at strach ei chymeriadau syn cael eu hudo i ryw fyd rhyfedd nad yw'n perthyn ir byd hwn. Mae hon hefyd yn ddilyniant i nofel Yr Allwedd Aur or un gyfres. Mae Llwyd Cadwaladr ac Arddun Gwen yn ffrindiau pennaf ac maen nhwn mynd ni ar daith i geisio achub dyfodol Cymru rhag crafangau creulon Gedon Ddu sydd am greu armaGEDON. Mae Gedon yn gobeithio rheoli popeth, yn gobeithio rhoi diwedd ar Gymru ac unrhyw atgof ohoni, a hynny gyda help y ddau ffrind, ynghyd Cai a llu o gymeriadau eraill sydd yn rhan or hanes hudol hwn. Yn sicr, dydi gorchfygu ddim am fod yn beth hawdd i Gedon. Yn nodweddiadol or gyfres hon, y maer byd sydd ohoni, y goruwchnaturiol, y dyfodol ar gorffennol, i gyd yn plethu yn un i greur campwaith. Or dechrau un, hawdd fyddai meddwl mai nofel yw hon o oes y Mabinogi gyda chymeriadau megis Ganthrig Bwt ac Wdull ar enwog Frenhines Eryri sydd yn dipyn o gymr, ond 2051 yw'r flwyddyn. Trwy atgyfodi cymeriadau o hen chwedlau Cymru, fel Myrddin Ddewin a Brenin Arthur, au cymysgun graff iawn gyda rhai fel y gwr cas o fyd teledu, Jeri Oswyn Cwellyn, mae yma chwrligwgan o stori sydd yn croesi pob math o ffiniau ffantasol. Yn hudolus iawn, y goruwchnaturiol sydd yn gorchfygu. Mae'r nofel epig hon yn cynnwys nodweddion syn adleisio clasuron chwedlonol ein cenedl, ac mae'r ffordd y mae'n eu cyflwyno mewn modd darllenadwy i blant yn eu harddegau yn glyfar tu hwnt. Mentrwch ir Hudfyd ... Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |