Dyma atgof o Teen Wolf, i’r sawl ohonom sy’n cofio, ar ei newydd
wedd ac wedi’i adleoli yng nghefn gwlad Cymru! Druan â Dewi yn
hytrach na throi'n flaidd, a fyddai’n eithaf cŵl, mae’n troi’n
ddafad bob nos. Mae’r sefyllfa hynod ryfedd yma yn dir ffrwythlon
i’r awdur i arfer ei chrefft o adrodd stori ddigri yn ei ffordd
ddihafal ei hun gyda’n harwr 13 oed yn treulio’r noson gyntaf yn
bwyta planhigion tŷ ei fam ac yn deffro ar yr ail fore yn
noethlymun yng nghanol cae! Wrth i Lowri, ei chwaer fach holl
wybodus, ddarganfod ei gyfrinach, gwelir eu perthynas yn aeddfedu,
wrth iddi geisio’i helpu i ddatrys y dirgelwch a dod o hyd i ffordd
o atal y gweddnewid. Yn gyferbyniad i’r hiwmor, datblygir y stori
trwy rai golygfeydd dramatig ac arswydus gyda thro annisgwyl a
chyffrous yn y plot a chyffyrddiad o hud a rhamant tua’r diwedd.
Adroddir y cyfan trwy gyfrwng arddull lafar, naturiol a rhugl. Mae
rhywbeth at ddant pawb yma rhieni sy’n darllen i’w plant, yn
ogystal â darllenwyr ifanc brwd ac anfoddog fydd yn medru uniaethu
â chefndir a chyd-destun teuluol ac amaethyddol y nofel hon.
*G. Mari Morgan @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |