Casgliad diddorol o bum stori fer wreiddiol – nid addasiadau – yw’r
gwaith yma gan Zoë Pettinger (sy’n rhan o gyfres Amdani). Mae amryw
o gymeriadau’r llyfrau yn ddysgwyr eu hunain; golyga hyn y bydd y
dysgwyr yn gallu uniaethu â’r cymeriadau ac mae sefyllfaoedd
cyfarwydd i’r dysgwyr yn codi.
Mae pob un stori yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i’r dysgwyr.
Dianc rhag cwlt yw thema un stori; yna cawn stori wyddonias yn
delio gydag ymladd dros gymuned ac iaith; cawn stori wedyn am
gariadon a fu'n cyd-ddysgu Cymraeg; yna stori am ysbryd sy’n tarfu
ar aelodau dosbarth Cymraeg; a’r olaf yn stori am ddechrau mynychu
dosbarth Cymraeg a’r ofnau a’r emosiynau ynglŷn â hynny.
Dysgwraig ddisglair ei hun yw awdur y straeon. Erbyn hyn mae hi’n
diwtor llwyddiannus yn ardal Aberystwyth ac felly mae hi’n
defnyddio fersiynau’r de o’r iaith.
Mae’r straeon hyn yn addas i ddysgwyr Canolradd ac yn hawdd i’w
darllen. Gellir eu defnyddio i helpu gyda sgiliau darllen ac yn
arbennig i ddatblygu geirfa mewn meysydd amrywiol iawn. Golyga
profiad helaeth yr awdur ei bod wedi gallu dethol geirfa, llawer o
idiomau ac yn fwy penodol, ansoddeiriau, yn ofalus, er mwyn ehangu
gwybodaeth y darllenydd yn ddiarwybod wrth iddo fwynhau’r
stori.
Bob tro mae gair newydd yn cael ei gyflwyno yn y stori caiff ei roi
mewn print trwm, a’i esbonio ar waelod y dudalen berthnasol. Mae
hyn yn hwyluso llif y deall a’r mwynhad o ddarllen heb orfod
ymestyn am eiriadur – yn wir, mae’r dysgwr yn dal i ddysgu wrth
ddarllen. Ysgogiad ychwanegol i'r dysgu yw’r adran eirfa yng nghefn
y llyfr, yn ogystal â’r ailadrodd patrymau (megis ymarfer y
gorffennol gan ddefnyddio’r ffurf gryno yn helaeth).
Gan fod hwn yn llyfr o straeon byrion gellir gorffen un stori yn
dwt ar un eisteddiad, ac wrth gwrs, nid dysgwyr y Gymraeg yn unig
all eu gwerthfawrogi.
O gwblhau’r llyfr hwn bydd y dysgwr wedi ymestyn ei allu a’i
wybodaeth o’r iaith yn ogystal â chael mwynhad mawr o’r hyn mae'n
ei ddarllen yn y straeon.
*Carwen Vaughan @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |