A book for Welsh learners, Foundation Level, being an original novel by Bethan Gwanas. Dafydd sleepwalks, and awakes one morning covered in blood. He follows bloody footprints out of the house and through the village to find Mrs Roberts at the roadside after a hit-and-run case. Who has hit her and will the police arrest the culprit? Reprint. First Published in 2018.
A book for Welsh learners, Foundation Level, being an original novel by Bethan Gwanas. Dafydd sleepwalks, and awakes one morning covered in blood. He follows bloody footprints out of the house and through the village to find Mrs Roberts at the roadside after a hit-and-run case. Who has hit her and will the police arrest the culprit? Reprint. First Published in 2018.
Nofel ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen yw hon, sy'n rhan o'r gyfres
newydd Amdani ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae nifer o
lyfrau yn y gyfres wedi eu cyhoeddi gyda mwy ar y gweill, ac maen
nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, sef Mynediad, Sylfaen,
Canolradd ac Uwch, i gyd-fynd â’r cyrsiau dysgu Cymraeg
cenedlaethol newydd. Ro'n i'n edrych ymlaen at ddarllen Yn Ei Gwsg
gan i mi fwynhau darllen y gyfres o nofelau Blodwen Jones gan
Bethan Gwanas pan o'n i'n gwneud lefel Sylfaen – nofelau doniol,
bywiog a hawdd i'w darllen gyda geirfa Cymraeg/Saesneg ar waelod
pob tudalen. Ro'n nhw'n wych o ran adolygu patrymau a geirfa, dysgu
geirfa newydd ac, yn bwysicach fyth, o ran darllen am fywyd bob
dydd mewn iaith eitha syml a dealladwy. Ceir yr un peth gyda'r
nofel hon. Mae'n ddoniol, bywiog a hawdd ei darllen. Mae'r stori am
ddyn o'r enw Dafydd sy'n cerdded yn ei gwsg, a'i gi Wmffra sy ddim
yn cerdded yn ei gwsg. Un bore, mae Dafydd yn deffro ac yn cael
sioc ofnadwy – mae gwaed dros y lle i gyd, gan gynnwys drosto fe'i
hun. Er mwyn trio deall beth ddigwyddodd mae e'n dilyn olion traed
gwaedlyd allan o'i dŷ a thrwy'r pentref. Mae e'n dod o hyd i'w
gymydog Mrs Roberts a'i ffrâm gerdded ar ochr y ffordd. Mae'n
ymddangos, yn ôl pob tebyg, ei bod hi wedi'i tharo gan gar. Dyw
Dafydd ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd, felly mae e'n mynd
ati, gyda help gan Wmffra, i drio datrys y dirgelwch. Wnaeth Dafydd
rywbeth ofnadwy yn ei gwsg? Dy'n ni'n clywed am gwpl o bethau mae e
wedi eu gwneud yn ei gwsg yn y gorffennol, ond beth ddigwyddodd y
tro yma? Ddaw e o hyd i'r ateb? Mae'r nofel yn symud ymlaen yn
gyflym wrth i Dafydd geisio datrys y dirgelwch. Mewn ffordd ysgafn,
ond gyda sensitifrwydd, mae'r nofel yn delio â themâu megis
perthynas, cyfeillgarwch, cariad, teyrngarwch, unigrwydd a cholled.
Mae'r penodau'n fyr ac mae tro yn y gynffon ar ddiwedd y llyfr (nid
cynffon Wmffra, dw i'n prysuro i'w ychwanegu!). Yn ogystal â geirfa
Cymraeg/Saesneg ar waelod pob tudalen mae rhestr eirfa
Cymraeg/Saesneg yng nghefn y llyfr hefyd, ac mae'r nofel wedi'i
darlunio gan Huw Aaron. I grynhoi, dyma lyfr gwych ar gyfer dysgwyr
lefel Sylfaen ond byddwn i'n argymell y dylai dysgwyr ar lefelau
uwch ddarllen y nofel er mwyn adolygu patrymau a geirfa, mwynhau'r
stori – a chefnogi'r diwydiant cyhoeddi ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Dw i'n edrych ymlaen at ddarllen gweddill y llyfrau yn y
gyfres!
*Matt Spry @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |