Braf gweld llyfr deniadol a chadarn (cardfwrdd) ar thema cestyll a marchogion ar gyfer y plant lleiaf. Maer golygfeydd lliwgar ac amrywiol yn cynnwys y fynedfa ir castell, gwledd ganoloesol, trafod o gylch bwrdd crwn, dwnsiwn tywyll a thwrnament. Maer testun yn syml iawn; does dim mwy na chwpled ar bob tudalen, ond maer lluniau manwl a chlir yn cynnig digonedd o gyfle i blant bach ddysgu geirfa newydd. Maer ffenestri bach sydd wedi'u torri trwy'r tudalennau yn arbennig o glyfar: ceir rhywbeth diddorol i sylwi arno wrth edrych ymlaen ir dudalen nesaf, ac wedyn wrth edrych yn l tuar dudalen flaenorol hefyd. Bydd yn siwr o apelio at ferched a bechgyn. Heather Williams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |